Plaid Cymru: Datganiad y Gwanwyn yn anwybyddu 'newid sylweddol’ i’r rhagolygon economaidd
Rhaid i’r Canghellor weithredu i amddiffyn busnesau bach a chartrefi wrth i ryfel Iran daro prisiau ynni – Ben Lake AS
Wrth ymateb i Ddatganiad Gwanwyn y Canghellor heddiw, mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi dweud bod y rhyfel sy’n cynnwys Iran a’r cynnydd ym mhrisiau nwy o ganlyniad i hynny yn cynrychioli’r “newid sylweddol iawn i’r rhagolygon economaidd” y dywedodd y Canghellor yn flaenorol y byddai angen gweithredu arno.