Plaid Cymru: Datganiad y Gwanwyn yn anwybyddu 'newid sylweddol’ i’r rhagolygon economaidd

Plaid Cymru 5-03-2026, 17:20 social

Rhaid i’r Canghellor weithredu i amddiffyn busnesau bach a chartrefi wrth i ryfel Iran daro prisiau ynni – Ben Lake AS

Wrth ymateb i Ddatganiad Gwanwyn y Canghellor heddiw, mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi dweud bod y rhyfel sy’n cynnwys Iran a’r cynnydd ym mhrisiau nwy o ganlyniad i hynny yn cynrychioli’r “newid sylweddol iawn i’r rhagolygon economaidd” y dywedodd y Canghellor yn flaenorol y byddai angen gweithredu arno.

Mae prisiau nwy bron wedi dyblu ers dechrau’r gwrthdaro. Gan fod nwy yn gosod pris trydan cyfanwerthu’r DU tua 90% o’r amser, mae’r cynnydd hwn eisoes yn cyfrannu’n uniongyrchol i gostau trydan uwch – gan roi busnesau bach a chartrefi ledled Cymru o dan straen ariannol newydd.

Gyda dros 99% o gwmnïau yn cyfrif fel busnesau bach a chanolig yng Nghymru, rhybuddiodd Plaid Cymru fod methu â gweithredu nawr yn peryglu tanseilio swyddi, buddsoddiad a ffyniant strydoedd mawr a mentrau gwledig.

Ym mis Tachwedd, dywedodd y Canghellor Reeves y byddai Datganiad y Gwanwyn yn cynnwys “diweddariad dros dro ar yr economi a chyllid cyhoeddus” gan y corff gwarchod cyllid cyhoeddus annibynnol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), ac na fyddai unrhyw newidiadau polisi oni bai bod “newid sylweddol i’r rhagolygon economaidd sy’n gofyn am ymateb.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

"Dywedodd y Canghellor na fyddai unrhyw newidiadau polisi oni bai bod newid sylweddol yn y rhagolygon economaidd. Mae ofnau cynyddol y bydd gwrthdaro hirfaith yn y Dwyrain Canol yn effeithio ar brisiau nwy ac yn achosi ergyd sylweddol i ragolygon heddiw.

"Wrth i nwy barhau i osod pris cyfanwerthu trydan y rhan fwyaf o'r amser, mae perygl go iawn y bydd y cynnydd hwn yn effeithio ar fusnesau a chartrefi Cymru. Mae busnesau bach – asgwrn cefn ein heconomi – eisoes yn wynebu heriau sylweddol yn sgil prisiau ynni uwch, costau staffio uwch a threthi, ac nid ydynt mewn sefyllfa dda i amsugno unrhyw gynnydd pellach mewn prisiau.

"Dylai Llywodraeth y DU fod wedi defnyddio'r datganiad hwn i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn, gan gynnwys drwy ymestyn y gostyngiad o 75% yn y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy i ddefnyddwyr annomestig. Byddai hyn o leiaf wedi helpu i amddiffyn busnesau bach rhag costau ynni uchel. Anogodd Plaid Cymru'r Canghellor hefyd i ystyried toriad i TAW ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth, cynyddu'r Lwfans Cyflogaeth i leddfu pwysau Yswiriant Gwladol, a chyflwyno dyletswydd statudol i brofi polisïau'r Trysorlys o safbwynt gwledig.

"Mewn cyfnod o ansefydlogrwydd byd-eang newydd a chostau cynyddol, mae angen i ni fod yn feiddgar. Rhaid i'r Canghellor nawr gyflwyno mesurau penodol i gefnogi busnesau bach a rhoi sicrwydd i aelwydydd sy'n wynebu rhagor o bwysau ar eu safonau byw."

https://www.plaid.cymru/spring_statement_2026

Related News

„Wenn das stationäre Angebot vom bestehenden Träger nicht gewährleistet wird, muss das Land einspringen.“

Christian Dirschauer TOP 15 - Frauen nicht allein lassen – ausreichend Angebote für Schwangerschaftsabbrüche in Flensburg sicherstellen (Drs. 20/4077)

read more..

Depuis la Savoie, nous vous apportons un soutien total. Parce que, ce que vous vivez aujourd’hui, nous le connaissons depuis des décennies : le refus de reconnaître l’évidence des territoires.

read more..

A Piazzapulita è andato in scena il solito “tiro mediatico al piccione” contro la Sicilia e le sue istituzioni. Noi di Siciliani Liberi siamo i primi a denunciare la pessima qualità dell’attuale classe politica al potere — una casta che vorremmo sostituire domani stesso — ma non accettiamo che si organizzi un attacco orchestrato utilizzando la scorretta tecnica dell’agente “sotto copertura” provocatore per umiliare la dignità della nostra terra.

read more..

NALS – Bereits im vergangenen Jahr machten wir mit zwei Aktionen auf die Missstände und das Versagen der Landesregierung in Bezug auf das Ehrenamt aufmerksam. Bei der letzten Aktion forderten wir umgehendes Handeln sowie die Einführung des seit Langem versprochenen Landesregisters für ehrenamtlich tätige Vereine, da mit dem 1. Jänner 2026 das Vereinsgesetz des Dritten Sektors in Kraft trat.

read more..

Encontro marisqueo Carril

Defende a bonificación das cotas da Seguridade Social ás mariscadoras e a posta en marcha de hatcheries públicas e mixtas para garantir semente

Propón a aprobación dun protocolo para impedir o baleirado de encoros con marea baixa que está danando os bancos marisqueiros

read more..

Make sure you have accepted photo ID to take with you to vote

You’ll need to show photo ID when voting in person upon entering polling stations in the next General Election and in any UK parliamentary by-elections.

read more..

El Rolde de Feminismos de CHA condena con rotundidad el triple asesinato machista ocurrido en Miranda de Ebro, en el que tres mujeres han perdido la vida tras un incendio presuntamente provocado por la expareja de una de ellas, un hombre con antecedentes por violencia contra las mujeres.


read more..

De fraksje fan de FNP yn de Provinsjale Steaten hat Sita Land-Dotinga en Dinie Visser ta nije ko-foarsitters keazen. Tegearre folgje se Gerben van der Mei op, dy’t sûnt de kolleezjefoarming fan 2023 de fraksje lieden hat.

read more..

Am vergangenen Samstag trafen sich Mitglieder und Freunde des Südtiroler Heimatbundes in St. Pauls zur 48. Bundesversammlung. Obmann Roland Lang eröffnete die Versammlung und begrüßt die Freiheitskämpfer, die Referenten sowie Hans Moser (Kassier des Andreas Hofer Bundes Tirol) und die Vertretung des AHB Deutschland.

read more..
Calendar
«October 2026»
MonTueWedThuFriSatSun
 1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031