Plaid Cymru – ‘Mae San Steffan yn ein trin fel bygythiad - ac y mae hynny'n nod o anrhydedd.’

Plaid Cymru 4-03-2026, 11:06 independence, politics

O gael ei thrin fel rhyw odrwydd rhanbarthol, mae San Steffan nawr yn trin Plaid Cymru fel 'bygythiad', medd Liz Saville Roberts AS

Wrth siarad yng Nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghasnewydd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, fod Llafur y DG yn gweld ein phlaid fel bygythiad, gan ddisgrifio'r newid yn agwedd San Steffan fel prawf fod Plaid Cymru yn llwyddo i sefyll dros Gymru.
Dywedodd Ms Saville Roberts, ar ol mwy na degawd yn San Steffan, ei bod wedi gweld sut y mae un llywodraeth ar ol y llall wedi "rhoi Cymru mewn bocs". Fodd bynnag, ei dadl yw fod y ddeinameg wleidyddol wedi newid dros y flwyddyn a aeth heibio
Tynnodd sylw at ymosodiadau Lu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, a labelodd Plaid Cymru fel 'arwahanwyr' fel tystiolaeth fod Llafur yn cydnabod dylanwad cynyddol y Blaid
Tynnodd A.S. Plaid Cymru sylw at ei datganiad fel yr wrthblaid Gymreig swyddogol yn San Steffan yn dilyn etholiad cyffredinol 2024, symudiad a ddisgrifiodd fel un "beiddgar, digywilydd o bosib - ond fod digwyddiadau wedi profi ein bod yn iawn." Yn 2025, nododd mai'r ASau Cymreig newydd-etholedig mwyaf gweithgar oedd Ann Davies a Llinos Medi, "o bell ffordd".
Amlinellodd Ms Saville Roberts ei hawydd am i lywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru fod yn un sydd a'r meddylfryd mwyaf rhyngwladol yn ein hanes
Sylwodd yn ei haraith fod diplomyddion o'r Undeb Ewropeaidd, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl ac Iwerddon wedi mynychu'r Gynhadledd, sy'n adlewyrchu'r diddordeb cynyddol ledled y byd yng Nghymru. Tynnodd Ms Saville Roberts sylw at ymweliad diweddar gan ddirprwyaeth a'r Ynys Las, ac ail-adroddodd fel mae ei phlaid yn amddiffyn cyfraith ryngwladol fel "y warchodaeth sy'n sefyll rhwng ynreolaeth a gorfodaeth gan wleidyddion sy'n cofleidio dim ond grym.
Dywedodd mai dim ond Plaid Cymru all atal gwleidyddiaeth Trumpaidd o 'fwlio a brawychu' rhag magu gwreiddiau yng Nghymru, ac anogodd aelodau'r blaid i ymgyrchu'n ddygn er mwyn gofalu mai Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ym mis Mai, er mwyn orofi fod "Cymru yn gwrthod ildio i fwlis".
Wrth siarad yng Nghasnewydd, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
“Cefais yr anrhydedd o wasanaethu fel AS Plaid Cymru ers dros ddegawd. Dros y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gweld sut mae San Steffan yn rhoi Cymru mewn bocs, a sut mae ei llywodraethau yn synied am Blaid Cymru. Dros y flwyddyn a aeth heibio, mae rhyw symud wedi digwydd. Nid yw sefydliad San Steffan bellach yn gweld Plaid Cymru fel rhyw nodwedd fach rhanbarthol ddifyr, josgins o'r wlad sydd wedi glanio yn y ddinas fawr. Rydym yn fygythiad.
“Pan fydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn defnyddio'r un hen ystrydebau treuliedig i ymosod ar Blaid Cymru fel 'ymwahanwyr', yr hyn ddyweda'i yw: Amdani! Rydan ni'n gwneud rhywbeth yn iawn "
“Rydym wedi ennill y safle hwn o fod yn fygythiad. Rydym wedi gweithio'n galed i fod yn gacynen sy'n poeni'r ci ffyrnig, byr ei dymer . Wedi etholiad 2024, mi wnaethom ddatgan mai ni yw'r wrthblaid Gymreig swyddogol yn San Steffan.
“Roedd hynny'n feiddgar, yn ddigywilydd o bosib, ond mae digwyddiadau wedi profi ein bod yn gywir
“Yn 2025, yr ASau newydd-etholedig mwyaf gweithgar oedd Ann Davies a Llinos Medi o bell, bell ffordd.
“Ni sydd wedi gosod yr agenda. Ni sydd wedi siarad yn glir. Mae pobl wedi sylwi. Mae'r byd wedi sylwi
“Mae gan ddiplomyddion rhyngwladol fwy o ddiddordeb nac erioed yng Nghymru
“Bu cynrychiolwyr o lysgenadaethau'r Undeb Ewropeaidd, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl ac Iwerddon yn ein cynhadledd yma y peneyrhnos hwn.
“Yn fwy nac erioed o'r blaen, mae ar y byd eisiau deall beth sy'n digwydd yng Nghymru. Fel ASau Plaid Cymru, nid San Steffan yw ein cynefin naturiol .
“Dywedodd AS yr SNP, Winnie Ewing, unwaith: "Dydyn ni ddim yn San Steffan i setlo i lawr, ond i setlo'r fsrgen." Mae hynny'n un mor wir amdanom ni.
“Ond un o fanteision bod yn San Steffan yw agosrwydd, rhwydweithio, cysylltiadau. Gallwch fachu clustiau pobl pan na fedrant ddianc rhagoch.
“Mae ein tim yn San Steffan - Dan arweiniad Ben Lake, ein llefarydd Materion Rhyngwladol - yn gwneud yn siwr fod y sawl yr ydyn yn cwrdd a hwy yn gwybod ein henw ac enw ein cenedl. Eu bod yn gwybod dros beth mae Plaid Cymru yn sefyll a'r hyn y gall Cymru wneud i'r byd.
“Pan fyddwn yn cwrdd a cgynrychiolwyr rhyngwladol yn Llundain, rydym yn dweud wrthynt yn glir: Llywodraeth Cymru dan Blaid Cymru fydd yr un a'r feddylfryd fwyaf rhyngwladol yn ein hanes
“Llywodraeth sy'n ffurfio perthynas gyda phwrpas. Llywodraeth sy'n deall mai ennill dylanwad ydych chi'n wneud . Llywodraeth fydd yn gweithio gydag eraill i ddad-wneud melltith Brexit. Llywodraeth fydd yn codi llais pan fydd egwyddor yn y fantol heb orfod aros am ganiatad gan Brif Weinidog y DG.”
Aeth yn ei blaen:
“Rhaid i Gymru lefaru'n glir a hyderus. Allwn ni ddim aros am ganiatad San Steffan i amddiffyn ein hegwyddirion.
“Mae bygythiad gwleidyddiaeth grym direswm ar stepen ein drws, gwleidyddiaeth bwlio a chodi ofn, lle mae trechaf treisied, gwannaf gwichied yw hi, a rheol cyfraith yn cael ei gwasgu dad draed am yr union reswm mai dyna'n aml yw'r unig beth sy'n gwarchod y gwan a'r bregus rhag y sawl fyddai'n elwa o'u gormesu.
“Bu Nigel Farage yn clodfori Donald Trump yn groch ers blynyddoedd.
Cyn hynny, ddisgrifiodd Vladimir Putin fel y gwleidydd yr oedd yn ei edmygu fwyaf
“Mae Nigel Farage eisiau dynwared dull Trump o weithio, o ledaenu camwybodaeth am bolisi 'Cenedl Noddfa' i ymosod ar brifysgolion Cymru.
“Nid yw'n deall dim am ein cymunedau.
“Ym mis Mai, dim ond Plaid Cymru all drechu gwleidyddiaeth bwlio a brawychu. Allwn ni ddim gadael I gasineb fwrw gwreiddiau yma. Y ddau air 'cenedl' a 'noddfa': geiriau dyngarol ydyn nhw. Rydym ni'n falch fod Cymru yn Genedl Noddfa.
“Fe allwn atal Reform, ac mae'n rhaid i ni. Oherwydd pwy ydyn ni a'r hyn mae Cymru, ein cymunedau a'n gwerthoedd yn olygu i ni. Mae hyn yn mynd at wraidd ein bod.”
Related News

Junts denuncia el tancament puntual de la Xina i reclama reobrir el Japó i la resta de mercats internacionals per evitar més pèrdues al sector

La senadora de Junts Teresa Pallarès ha advertit aquest dimarts que l’expansió de la Pesta Porcina Africana (PPA) pot esdevenir “el certificat de defunció” del sector porcí de Catalunya si el Govern espanyol no adopta mesures urgents i eficaces per contenir-la.

read more..

Néstor Rego denuncia a fragmentación na avaliación da subestación de Abegondo e acusa o Goberno do Estado de facilitar a súa tramitación

“O Goberno debe abandonar a fragmentación e promover unha avaliación ambiental integral que teña en conta o conxunto das infraestruturas e os seus efectos acumulativos” sinala

read more..

Dlouholetá starostka Pasohlávek Martina Dominová, zvolená za stranu Moravané, jednala se senátorem Robertem Šlachtou o záchraně nejstaršího románského kostela na Moravě v Mušově. Pokračuje tak v iniciativě, kterou před několika založil člen předsednictva strany Moravané Tomáš Ingr.

read more..

Eg vóni, at vit velja einar rættvísar, samhaldsfastar og sjálvstøðugar Føroyar.

read more..

Être présent ne peut pas être un choix limité aux périodes électorales. Pour un mouvement enraciné dans son territoire, être présent signifie accompagner la communauté chaque jour, tout au long de l’année, en partageant ses défis, ses attentes et ses perspectives. C’est dans cette présence constante que se mesure la crédibilité de l’action politique.

read more..

Brussel is deze week het decor voor de allereerste editie van de Brussels European Defence Exhibition & Conference (BEDEX). Minister van Defensie Theo Francken opende gisteren de internationale defensiebeurs in Brussels Expo, samen met NAVO-secretaris-generaal Mark Rutte, premier Bart De Wever en verschillende federale en regionale regeringsleden.

read more..

Unsere Häfen sind keine lokalen Nebenprojekte, sondern strategische Infrastruktur – für Wirtschaft, Energiewende, Tourismus und Sicherheit. Einen Hafeninfrastrukturfonds müssen wir umsetzen statt prüfen.


read more..

Den senaste tidens debatt i sociala medier, efter Antonio Salminens kommentar om ”tanter i politiken” och Camilla Gunells angrepp på Anette Holmberg-Jansson har snabbt förvandlats till en pajkastning. Personer, skärgårdstrafik och tobakslag har dragits in i ordväxlingar som allt mer liknar ett kommentarsfält utan konstruktiv riktning.

read more..

Ajaccio, cette ville, ma ville. Celle où je suis né, et où je me projette pour toute ma vie.
C'est une ville qu’on vit, pas qu’on raconte.
Avec des visages. Des histoires. Une identité propre.
Je m’y engage maintenant, pas demain.

read more..
Calendar
«October 2026»
MonTueWedThuFriSatSun
 1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031