Arweinydd Plaid Cymru yn amlinellu cynllun a arweinir gan berchnogaeth i adeiladu cyfoeth Cymru i gynulledifa economaidd Llundain
Rhun ap Iorwerth yn dweud wrth ddigwyddiad LSE fod tyfu cwmnïau Cymreig a chryfhau perchnogaeth leol yn allweddol i dwf hirdymor a chydnerthedd economaidd.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi cyflwyno gweledigaeth economaidd Plaid Cymru, a arweinir gan berchnogaeth, i gynulleidfa bolisi yn Llundain, gan ddadlau bod adeiladu cyfoeth Cymru yn dibynnu ar ehangu busnesau ar lawr gwlad a chadw mwy o gwmnïau yn nwylo Cymru.
Wrth siarad mewn dadl economeg datganoli a gynhaliwyd gan Ysgol Polisi Cyhoeddus LSE a Lab Twf LSE nos Lun (2 Mawrth) fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, dywedodd arweinydd Plaid Cymru wrth academyddion, buddsoddwyr a llunwyr polisi nad yw Cymru’n brin o dalent entrepreneuraidd, ond bod yn rhaid iddi wneud mwy i gefnogi busnesau i wreiddio ac i dyfu yng Nghymru.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw at dystiolaeth, rhwng 2010 a 2017, fod 53 y cant o drosglwyddiadau perchnogaeth busnesau bach a chanolig Cymru wedi arwain at gaffael gan gwmnïau y tu allan i Gymru. Rhybuddiodd fod hyn wedi cyfrannu at yr hyn y mae grwpiau busnes wedi'i ddisgrifio fel "y canol coll” i Gymru, sef prinder cwmnïau canolig eu maint cynhyrchiol sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ac sy'n ailfuddsoddi elw yn lleol.
Dadleuodd fod busnesau â gwreiddiau lleol cryf yn fwy tebygol o fuddsoddi yn eu gweithlu, datblygu cadwyni cyflenwi Cymru, a chynllunio ar gyfer y tymor hir.
Yn ystod y drafodaeth, tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw at bolisi Plaid Cymru i greu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, corff a gaiff ei arwain gan fusnesau sy'n gweithredu hyd braich o'r llywodraeth, gyda mandad clir i gefnogi twf cynhenid ochr yn ochr â denu buddsoddiad.
Hefyd ar y panel roedd Chelsea Pinches-Burrowes, sylfaenydd Asiantaeth WCS a Chylchgrawn Cardiff Life, yr Athro Graeme Roy, Cadeirydd Comisiwn Cyllidol yr Alban, a Lorena López de Lacalle, Llywydd Cynghrair Rhydd Ewrop a chyn weinidog yn llywodraeth Gwlad y Basg. Cadeiriwyd y drafodaeth gan yr Athro Richard Davies, Cyfarwyddwr Arsyllfa Economeg y DU a Lab Twf LSE. Roedd y drafodaeth yn ymdrin â datganoli, gwneud penderfyniadau lleol, a'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer adeiladu economïau rhanbarthol gwydn.
Wrth siarad yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Rydym yn ffodus i gael llawer o entrepreneuriaid talentog yng Nghymru. Yr her yw sut rydym yn eu cefnogi drwy’r blynyddoedd cynnar anodd hynny, sut rydym yn eu helpu i ehangu, a sut rydym yn creu economi sy’n annog busnesau i aros ym mherchnogaeth Gymreig.
“Rhwng 2010 a 2017, pan trosgglwyddwyd busensau i ddwylo newydd, gwerthwyd 53 y cant i berchnogion newydd y tu allan i Gymru. Mae’r mater hwnnw o berchnogaeth yn broblem fawr. Mae angen i ni gryfhau’r ymdeimlad o berchnogaeth, sy’n golygu canolbwyntio ar y busnesau sydd gennym ar hyn o bryd a rhoi’r mecanweithiau ar waith i’w helpu i dyfu, gan roi cefnogaeth iddynt, mynediad at gyllid lle bo angen, a’r hyder i dyfu yng Nghymru fel busnesau sy’n eiddo i Gymry.
“Mae ymrwymiad yn bwysig. Mae busnesau sydd wedi’u gwreiddio o ddifri yng Nghymru yn fwy tebygol o fuddsoddi yn eu gweithlu, adeiladu cadwyni cyflenwi lleol, a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Dyma sut y gallwn wneud twf yn gynaliadwy a sicrhau bod cyfoeth yn aros yn ein cymunedau.
“Mae gennym y blociau adeiladu yn eu lle, ond mae angen ffocws mwy manwl arnom. Gall cynlluniau Plaid Cymru ar gyfer Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad busnesau, ddarparu'r gefnogaeth, y cyngor a'r mynediad at gyllid sydd eu hangen ar fusnesau Cymru i dyfu tra’n parhau i fod wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau.
“Wrth gwrs, byddwn hefyd yn edrych i wneud y mwyaf o fuddsoddiad allanol i Gymru, ond mae tyfu busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru yn hanfodol, yn ogystal ag annog cwmnïau sy'n buddsoddi yng Nghymru i blannu eu gwreiddiau yng Nghymru trwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol.
“Mae adeiladu cyfoeth Cymru yn ymwneud ag adeiladu perchnogaeth Gymreig. Mae hynny'n ganolog i'n gweledigaeth economaidd ac i greu twf hirdymor, gwydn ledled Cymru.”