Rhaid i Lywodraeth y DU beidio ag anwybyddu consensws trawsbleidiol cynyddol ar ddatganoli plismona – Plaid Cymru
Aelod Plaid Cymru o Dŷ’r Arglwyddi yn arwain yr ymgyrch dros ddatganoli plismona i Gymru
Heddiw (dydd Iau 12 Mawrth) mae Carmen Smith, Aelod Plaid Cymru o Dŷ’r Arglwyddi, wedi annog Llywodraeth Lafur y DU i beidio ag “anwybyddu” y consensws trawsbleidiol cynyddol o blaid datganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid i Gymru.
Llwyddodd y Farwnes Smith o Lanfaes i ddod â’r mater i’r amlwg mewn dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi ar y Mesur Troseddu a Phlismona, lle arweiniodd ymdrechion trawsbleidiol i annog Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau i Gymru.
Cyflwynodd yr Aelod Plaid Cymru welliannau 409A a 409B, a oedd yn ceisio datganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid i Gymru drwy gael gwared ar y materion hyn o restr y pwerau a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Wrth siarad â’r Tŷ, tynnodd sylw at yr anghydraddoldeb yn y ffordd mae dinasyddion Cymru yn ariannu’r rhan fwyaf o blismona drwy gyfraniadau Llywodraeth Cymru a threth y cyngor, tra bod San Steffan yn cadw’r pwerau i wneud penderfyniadau. Dadleuodd fod diddymu comisiynwyr heddlu a throseddu yn creu bwlch llywodraethu yng Nghymru, ac mai’r peth rhesymegol fyddai i Lywodraeth Cymru chwarae rhan amlwg yn nyfodol plismona.
Roedd cefnogaeth drawsbleidiol eang i'w weld yn y ddadl. Pwysleisiodd cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (Yr Arglwydd Jones o Benybont, Llafur) y dylai Cymru, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, gael pwerau i lunio blaenoriaethau plismona, gan nodi bod cydweithredu trawsffiniol eisoes yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch troseddu. Nododd cyn Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy (Yr Arglwydd Murphy o Dorfaen, Llafur), fod "amseroedd wedi newid" ers iddo fod mewn llywodraeth, gan nodi bod bellach rhaid ystyried datganoli o ddifrif.
Fe wnaeth y cyn Arglwydd Ustus, John Thomas, (Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd) dynnu sylw at ddiffyg fforwm i drafod cyfiawnder Cymru yn iawn, a galwodd am ymgysylltu cadarn â’r gwersi o’r Alban a Gogledd Iwerddon. Cymeradwyodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Christine Humphreys (Y Farwnes Humphreys o Lanrwst) y gwelliannau, gan nodi bod cyfiawnder ieuenctid yn faes cyfyngedig ac effeithiol lle mae datganoli graddol yn bosib yn ymarferol.
Mae'r ddadl yn dilyn gwrthodiad ffurfiol Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau plismona i Gymru, fel y gwnaed yn glir yn Nhŷ'r Cyffredin pan ymatebodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS. Er gwaethaf tri chomisiwn annibynnol yn argymell datganoli cyfiawnder a phlismona, dywedodd Mahmood yn ddiamwys: "Na, dydw i ddim".
Wrth ymateb ar ran y llywodraeth yn Nhŷ’r Arglwyddi, fe wnaeth y Gweinidog Gweinidog Gwladol dros y Swyddfa Gartref, David Hanson (Yr Arglwydd Hanson o’r Fflint, Llafur) gydnabod y newidiadau strwythurol sydd ar y gweill oherwydd diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a chadarnhaodd adolygiad o feintiau heddluoedd a’u llywodraethiant ledled Cymru a Lloegr, ond ailgadarnhaodd safbwynt Llywodraeth y DU, “nad yw’r Llywodraeth yn credu bod yr ad-drefnu hwn yn ymwneud â datganoli”.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, dywedodd y Farwnes Smith:
"Mae diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ail-lunio llywodraethu plismona yn gyfan gwbwl. Yn Lloegr, bydd y cyfrifoldebau’n symud i awdurdodau’r meiri, ond nid oes gan Gymru strwythurau cyfatebol. Mae'n gwneud synnwyr i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r ateb, beth bynnag yw'r ateb hwnnw, i'r bwlch newydd hwn sydd wedi’i greu. Eto i gyd, nid ydym yn gwybod pa fodel y mae'r Llywodraeth yn ei ragweld ar gyfer llywodraethu heddluoedd Cymru, a yw datganoli plismona hyd yn oed yn parhau i gael ei ystyried, er gwaethaf argymhellion cyson gan gomisiynau annibynnol, neu sut y bydd cyfraniadau ariannol Cymru, sydd eisoes yn sylweddol, yn cael eu cydnabod. Yn 2024-25, dim ond tua 43% o wariant plismona yng Nghymru a ddaeth gan Lywodraeth y DU. Daeth y gweddill o gyfraniadau llywodraeth Cymru a threth y cyngor. Mae hyn yn parhau i fod yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn cadw'r pŵer i wneud penderfyniadau drosom, ond mae dinasyddion Cymru eisoes yn ariannu'r rhan fwyaf o'u gwanasaeth plismona."
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd:
"Mae'n amlwg bod cefnogaeth sylweddol i ddatganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid – o gyn Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i gyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy, i ffigurau annibynnol fel cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, John Thomas.
"Eto i gyd, mae Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru a'r Ysgrifennydd Cartref yn parhau i anwybyddu lleisiau Cymru ac yn parhau i ddweud 'Na'. Mae Cymru'n haeddu tegwch ac atebolrwydd. Os yw Llywodraeth y DU yn anwybyddu'r consensws hwn, mae mewn perygl o wthio lleisiau dinasyddion Cymru sydd eisoes yn ariannu'r gwasanaethau hanfodol hyn i'r ochr. Mae'n bryd nawr troi at synnwyr cyffredin."
https://www.plaid.cymru/cross_party_consensus_police_devolution